SL(5)425 - Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Bydd yr Offeryn Statudol newydd yn cynyddu Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS) cregyn moch yng Nghymru. Bydd eu maint lleiaf yn cynyddu o 45mm i 55mm o'r dyddiad y daw'r Offeryn Statudol i rym, ac yn cynyddu ymhellach i 65mm flwyddyn yn ddiweddarach. Bydd y cam hwn yn gwella cynaliadwyedd pysgodfa cregyn moch Cymru a bydd yn berthnasol i bob cwch yn y DU sy'n pysgota o fewn parth Cymru.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(i) mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Caiff y Gorchymyn ei osod o dan y weithdrefn negyddol gyda gwyriad o'r cyfnod diwrnod gosod 21 diwrnod safonol.

Mae'r rheol 21 diwrnod o dan Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (a ymgorfforir yn Atodlen 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) yn darparu y dylid gosod offerynnau 21 diwrnod cyn iddynt ddod i rym. Mae hyn yn galluogi Aelodau i geisio diddymu offerynnau o'r fath cyn iddynt gael effaith, gan y gellir achosi dryswch os caiff deddfwriaeth ei diddymu ar ôl iddi gael ei gweithredu. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau torri'r rheol honno. Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, fel sy'n ofynnol o dan adran 11A o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, wedi hysbysu'r Llywydd am dorri’r rheol, fel y gellir dwyn y mater i sylw'r Aelodau.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'r rhesymau dros dorri'r rheol 21 diwrnod:

“The ability of an EU Member State to increase the MCRS for its vessels is contained within Article 46 of the Technical Conservation Regulation 850/1998. Officials have recently become aware that Article 46 of the Technical Conservation EC Regulation 850/98 will be repealed imminently. 

On 13 June 2019 the EC’s Employment, Social Policy, Health and Consumer Affairs Council approved the new Technical Conservation Regulation, which will replace Regulation 850/1998. The new regulation is expected to come into force at the end of June or the beginning of July  2019 (the exact date will be twenty days after its publication of the new Regulation in the Official Journal of the EU which has not yet occurred). 

 

The replacement Technical Conservation Regulation does not include any equivalent power for Member States to legislate unilaterally in relation to an MCRS. The new EU legislation will provide a system whereby groups of Member states can submit proposals for conservation measures to the European Commission. Given that this is a Wales specific issue, no EU countries target whelks in Welsh waters and the UK intends to leave the EU, it is unlikely that any other EU state or the Commission will be interested in cooperating with us in using this regional mechanism.

Due to the timescales involved the Whelk Fishing (Wales) Order 2019 is being laid under the negative procedure with deviation from the standard 21 day laying day period. It is necessary to breach the 21 day rule to ensure the Order comes into force before the repeal of Article 46 of the Technical Conservation Regulation 850/1998.”

Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Mae'r Gweinidog perthnasol yng Nghymru wedi ysgrifennu at y Llywydd i roi hysbysiad ynghylch torri’r rheol 21 diwrnod ac wedi rhoi rhesymau manwl dros dorri’r rheol yn y Memorandwm Esboniadol.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Gorffennaf 2019